Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Environment and Sustainability Committee
Emyr Roberts Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru |
6 Mawrth 2015 |
Annwyl Emyr
Gwahoddiad i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd 6 Mai
Hoffai'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd eich gwahodd chi a Peter Matthews i ddod ger ein bron yn ein cyfarfod ar 6 Mai at 2015.
Pwrpas y sesiwn fydd trafod gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2013. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn pe gallech gyflwyno papur dwyieithog cyn y sesiwn yn amlinellu'r materion allweddol a'r cynnydd a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru ers ei sefydlu, a byddem yn croesawu'r wybodaeth ganlynol yn arbennig:
Y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol
§ Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun diswyddo gwirfoddol, gan gynnwys nifer y staff sydd wedi manteisio ar y cynllun a chyfanswm y gost hyd yn hyn.
Cynllun Busnes
§ Crynodeb o berfformiad y corff yng nghyd-destun Cynllun Busnes 2014-15, gan gynnwys yr adroddiad perfformiad diweddaraf ar y dangosfwrdd corfforaethol;
§ Copi o Gynllun Busnes 2015-16, os yw ar gael.
Trwyddedau
§ Y diweddaraf ar nifer y trwyddedau y mae'r corff wedi eu dosbarthu i'w hun yn ystod y 12 mis diwethaf.
Hunan-blismona
§ Crynodeb o unrhyw gamau gorfodaeth neu gamau hunan-blismona y mae'r corff wedi eu cymryd yn erbyn ei hun yn ystod y 12 mis diwethaf.
Rhaglenni Ariannu/Grantiau
§ Y wybodaeth ddiweddaraf am raglenni ariannu partneriaeth a grantiau a'r newidiadau a wnaed i hyn ers i'r corff ddechrau gweithredu.
Manteision o ran Cost
§ Y proffil diweddara ar fanteision o ran cost y corff, gan gynnwys esboniad o unrhyw newidiadau pellach a wnaed ers mis Mai 2014.
Y Sefyllfa Ariannol
§ Sefyllfa ariannol ddiweddaraf y corff.
Buddsoddi i Arbed
§ Manylion yr arian Buddsoddi i Arbed y mae'r corff wedi ei gael hyd yn hyn.
Byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Pwyllgor pe gallech gyflwyno eich papur i'r Clerc erbyn dydd Mercher 22 Ebrill. Gofynnwch i'ch swyddogion gysylltu â Chlerc y Pwyllgor os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch.
Yn gywir,
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd